- English
- 029 2048 7941
- Cysylltwch â ni
Mae gan Hoffi bedwar aelod o staff allweddol, ac mae gan bob un gefndir gwahanol ac unigryw ym maes dylunio.
.jpg)
Carwyn yw golygydd #1, cylchgrawn dylunio Cymraeg a sefydlwyd i ddathlu gwaith dylunwyr Cymreig. Yn wreiddiol o’r Gogledd, dychwelodd Carwyn adref, ar ôl graddio o Brifysgol Swydd Stafford, i weithio i Bikefax, cyhoeddwyr llyfrau canllaw llwyddiannus. Yn ystod ei amser yno fel prif ddylunydd, bu Carwyn yn gyfrifol am gynllun a delwedd holl waith dylunio’r cwmni.
Symudodd Carwyn i Gaerdydd i ehangu ei orwelion trwy weithio i un o’r prif Asiantaethau Dylunio, gan weithio gyda chleientiaid fel Opera Cenedlaethol Cymru, yn cynhyrchu llyfrau a deunyddiau marchnata eraill. Ers sefydlu Hoffi, mae Carwyn wedi bod yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Enillodd wobr yn sgil hyn am ei waith ar y llyfr ‘Dweud eich dweud’ i’r Ganolfan Ymgynghorol ar gyfer Addysg. Llwyddodd hefyd i gyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Menter 2007, sef cynllun a sefydlwyd gan Menter a Busnes sy’n gwobrwyo siaradwyr Cymraeg sy’n rheoli eu busnesau eu hunain a chwmnïau llwyddiannus sy’n defnyddio’r Gymraeg. Gallwch hefyd glywed ei lais yn rheolaidd ar BBC Radio Cymru, yn mynegi ei farn ar faterion dylunio, ac mae’n aelod gweithgar o’r gymuned ddylunio yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, bu Carwyn yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru a Cytûn.
Uchelgais bersonol – mynd ar ‘Dragon’s Den’ i geisio annog buddsoddiad yn ei beiriant symudiad diddiwedd.
Gweler blog Carwyn yn http://carwynlloyd.blogspot.com/
.jpg)
Mae Julian Sykes yn ddylunydd hynod lwyddiannus. Ar ôl graddio o Brifysgol Metropolitan Leeds, sefydlodd Julian ei gwmni dodrefn ei hun o’r enw jåfor, a bu’n gweithio gyda SU-SU, cwmni dodrefn Siapaneaidd, ar nifer o gynhyrchion ar gyfer ei brif siop yn Tokyo. Ar ôl dychwelyd i Gaerdydd, bu Julian yn gweithio i un o brif asiantaethau dylunio y ddinas, gan weithio ar brosiectau i Lywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Yn ystod ei amser yno, cydnabuwyd Julian gan y Western Mail fel un o’r dylunwyr ifanc mwyaf dylanwadol yng Nghymru, pan arddangoswyd ei ddodrefn yng Ngŵyl Ddylunio Caerdydd 2006 a Gŵyl Ddylunio Llundain.
Fel aelod rheolaidd o Fforwm Dylunio Caerdydd, cydsefydlodd Julian y wefan gymunedol www.nakedwales.com mewn ymgais i greu cymuned ddylunio gryfach yng Nghaerdydd a Chymru. Ers sefydlu Hoffi, mae Julian wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o gleientiaid, mae ganddo brofiad helaeth o reoli prosiectau ac mae’n mwynhau her. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn gweithio ar ymgyrchoedd ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru, Gŵyl Ddylunio Caerdydd a Thai Cymunedol Cymru. Mae hefyd wedi bod yn gweithio gyda Calon Wen ar sut y gellir cynnal teyrngarwch i frand ar ôl prynu.
Uchelgais bersonol – gwneud ciwb Rubix mewn llai na 5 munud.
Gweler blog Julian yn http://julianmarshallsykes-branding.blogspot.com/
.jpg)
Mae Andrew yn uchel iawn ei barch yn y gymuned ddylunio yng Nghymru. Ers graddio o Brifysgol Morgannwg, mae wedi gweithio gyda rhai o’r asiantaethau dylunio gorau yng Nghymru, ac wedi cefnogi’r gymuned ddylunio yng Nghymru trwy gyfrannu at Ŵyl Ddylunio Caerdydd a chyd-sefydlu’r gymuned gelf a dylunio – Naked Wales.
Ers cyd-sefydlu Hoffi, mae Andrew wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o gleientiaid ac, yn ddiweddar, bu’n gweithio yn y sectorau iechyd ac addysgol ar ymgyrch codi arian Ambiwlans Awyr Cymru – Sialens Awr Aur a gwefan Newid yn yr Hinsawdd Canolfan Eco Gorllewin Cymru (www.climatechangewales.org.uk), sy’n ceisio addysgu plant Cymru ynglŷn ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Yn ogystal â’i gariad tuag at ddylunio, mae Andrew’n hoff iawn o ffotograffiaeth hefyd ac, yn ddiweddar, treuliodd amser yn teithio ar draws America, gan wireddu breuddwyd trwy yrru ar hyd route 66. Dychwelodd i Gymru gyda lluniau a straeon gwych, sydd wedi difyrru pawb am flwyddyn gyfan.
Uchelgais bersonol – llwyddo i wneud mwy o waith yn yr ardd yn barod ar gyfer y gwanwyn, gan fod cnwd llysiau eleni wedi bod yn siomedig.
Gweler blog Andrew yn andrew-thomas.co.uk

Magwyd Elin ar fferm yn y Gogledd a symudodd i Gaerdydd yn 2004. Graddiodd yn 2008 gyda gradd BA mewn Tecstilau Cyfoes o Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, lle cafodd brofiad o argraffu tecstilau, brodwaith, pwytho, digidol, gwneud papur a chyfryngau cymysg. Yn ystod y cwrs, bu’n arbenigo mewn dylunio stiwdio; yn gweithio gyda ffasiwn, ffabrigau a phatrymau arwyneb ar gyfer dodrefn, wynebau caled a phapur, a ddewiswyd ar gyfer arddangosfa derfynol yn Oriel Ofod Bute a New Designers, Llundain.
Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol, enillodd Elin Ysgoloriaeth Genedlaethol Brodwaith Cymru, a chafodd arddangos ei gwaith gyda Brodwaith Cymru o ganlyniad. Mae Elin hefyd wedi cymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros sawl blwyddyn, ac mae ei gwaith yn cael ei arddangos yno’n rheolaidd. Yn ei hamser hamdden ei hun, mae Elin yn hoff o wneud ei chynhyrchion i’w ffrindiau.
Uchelgais bersonol – byw bywyd Carrie Bradshaw am ddiwrnod, ac mae hi hefyd yn awyddus i roi’r gorau i gasglu bocsys.