D

Dylunio creadigol.
Syniadau dwyieithog.

Hoffi Limited Logo

Main Menu

Pages associated with 'Thema Gymunedol IBO'

Sefydliad Bagloriaeth Ryngwladol

Gofynnodd gwasanaethau dysgu proffesiynol ar-lein IBO i ni ddylunio a datblygu cyfres o dempledi XHTML ar gyfer llwyfan rheoli cynnwys ffynhonnell agored Drupal.

Mewn ymdrech i gryfhau cymuned fawr a chynyddol y Sefydliad Bagloriaeth Ryngwladol (IBO) a chenhadaeth yr IBO, datblygwyd y prosiect thema gymunedol cyffrous. Datblygwyd y syniad o thema gymunedol yn 2006 a lansiwyd y thema gyntaf, “rhannu ein dynoliaeth”, yn swyddogol ym mis Ebrill 2007 yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol. Bwriad y thema, a fydd yn para tair blynedd, yw bod yn ganolbwynt ar gyfer y Fagloriaeth Ryngwladol ac Ysgolion Byd-eang y Fagloriaeth Ryngwladol, gan feithrin y mentrau gwych sydd eisoes ar waith mewn llawer o ysgolion ac annog ac ysbrydoli gweithgareddau newydd yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Gan weithio gyda thîm o ddatblygwyr mewnol, buom yn cynhyrchu llwyfan sydd bellach yn gymuned ar-lein ryngwladol, ond sydd hefyd yn cyd-fynd â chanllawiau brand y sefydliad.

Ewch i wefan Thema Gymunedol IBO (communitytheme.ibo.org)

Thema Gymunedol IBO - Hafan

Arrow Thema Gymunedol IBO - Hafan

Thema Gymunedol IBO - Adran i aelodau a`r cyhoedd

Arrow Thema Gymunedol IBO - Adran i aelodau a`r cyhoedd

Thema Gymunedol IBO - Oriel gyfryngau gyda chyfraniadau gan y gymuned

Arrow Thema Gymunedol IBO - Oriel gyfryngau gyda chyfraniadau gan y gymuned

Thema Gymunedol IBO - Fforymau trafod

Arrow Thema Gymunedol IBO - Fforymau trafod

Cleient

Sefydliad addysgol dielw sy`n cael ei ysgogi gan ei genhadaeth ac sy`n canolbwyntio ar y myfyriwr yw Bagloriaeth Ryngwladol. Ar hyn o bryd mae`r sefydliad, a sefydlwyd ym 1968, yn gweithio gyda 2,423 o ysgolion mewn 131 o wledydd i ddatblygu a chynnig tair rhaglen llawn her i dros 664,000 o fyfyrwyr rhwng 3 a 19 oed.

Allbwn

- Cysyniadau dylunio
- Templedi XHTML Strict 1.0

Canlyniad

"Tua diwedd 2007, dechreuodd y Sefydliad Bagloriaeth Ryngwladol (IBO) ddatblygu llwyfan ar-lein uchelgeisiol a fyddai`n cefnogi`r gwaith o rannu gwybodaeth ar draws chwe mater byd-eang pwysig. Ar ôl dewis y system rheoli cynnwys (Drupal), comisiynodd IBO Hoffi Cyfyngedig i ddarparu ateb dylunio llawn a oedd yn cynnwys cynhyrchu templedi XHMTL a ddatblygwyd i safonau W3C. Roedd IBO wrth eu bodd â gwaith Hoffi a`r ffordd y gwnaethant gydweithio i sicrhau`r canlyniad dymunol. Byddaf yn sicr yn argymell Hoffi i sefydliadau sy`n chwilio am ateb dylunio gwe o safon uchel." Lee Davis, Pennaeth dysgu proffesiynol ar-lein