D

Dylunio creadigol.
Syniadau dwyieithog.

Hoffi Limited Logo

Main Menu

Pages associated with 'Newid Hinsawdd Cymru'

Newid Hinsawdd Cymru

Aethom ati i gynhyrchu llwyfan dysgu rhyngweithiol gyda system rheoli cynnwys lawn ar gyfer Canolfan Eco Gorllewin Cymru sydd wedi ei galluogi i reoli a darparu deunyddiau dysgu i fyfyrwyr ac athrawon ledled Cymru.

Trwy’r cyfnod dylunio cychwynnol, buom yn gweithio gyda Chanolfan Eco Gorllewin Cymru i nodi’r meysydd allweddol ar y wefan, gan gynhyrchu gwefan aml-haen sy’n datblygu wrth i’r disgybl fynd o’r naill gyfnod i’r llall. Bydd y wefan ar ffurf cartŵn yng nghyfnod allweddol 1, ac wedi datblygu o ran soffistigeiddrwydd erbyn cyfnod allweddol 4. Mae staff y ganolfan yn gallu diweddaru’r wefan trwy ddefnyddio ein System Rheoli Cynnwys mewnol, Cynnwys ©..

Yn ogystal â chynnwys safonol ar gyfer y defnyddiwr, datblygwyd cyfleuster ychwanegol a ddefnyddiwyd trwy’r wefan, gan gysylltu’r deunyddiau ag adnoddau addysgu ar-lein a gaiff eu lawrllwytho’n uniongyrchol gan staff addysgu ledled Cymru.

Ewch i wefan Newid Hinsawdd Cymru (www.newidhinsawddcymru.org.uk)

Newid yr Hinsawdd Cymru - dysgu ar-lein ar gyfer cyfnodau allweddol 1 a 2

Arrow Newid yr Hinsawdd Cymru - dysgu ar-lein ar gyfer cyfnodau allweddol 1 a 2

Newid yr Hinsawdd Cymru - dysgu ar-lein trwy sefyllfa ystafell ddosbarth

Arrow Newid yr Hinsawdd Cymru - dysgu ar-lein trwy sefyllfa ystafell ddosbarth

Newid yr Hinsawdd Cymru - dulliau dysgu rhyngweithiol gyda chyfleusterau cydweithredol a chymunedol

Arrow Newid yr Hinsawdd Cymru - dulliau dysgu rhyngweithiol gyda chyfleusterau cydweithredol a chymunedol

Cleient

Elusen gofrestredig a busnes dielw cyfyngedig drwy warant sydd wedi`i leoli yn Nhrefdraeth, Sir Benfro yw Canolfan Eco Gorllewin Cymru. Mae`n gweithio gyda nifer o bartneriaid ac arianwyr i hyrwyddo materion yn ymwneud âr defnydd o ynni a`i effaith ar gynaliadwyedd a`r amgylchedd.

Allbwn

- Delwedd y brand
- Gwefan
- Baneri
- Gwobrau CD

Canlyniad

Elusen amgylcheddol sydd wedi`i lleoli yn Nhrefdraeth, Sir Benfro yw Canolfan Eco Gorllewin Cymru. Rydym wedi cynhyrchu dau adnodd dysgu rhyngweithiol yn y gorffennol ac roeddem yn chwilio am gwmni a fyddai`n ein helpu ni i greu adnodd dysgu ar-lein i ysgolion ar newid yn yr hinsawdd. Yn ystod y broses dendro, fe wnaeth portffolio dylunio cryf Hoffi ar draws y gwahanol grwpiau oedran a`u hagwedd broffesiynol at reoli prosiectau greu cryn argraff arnom. Rhoddodd hyn hyder i ni na fyddai`r cwmni`n gwario mwy na`r gyllideb, a gwelsom y byddai ei system rheoli cynnwys bwrpasol yn ein galluogi ni i reoli cynnwys dwyieithog y wefan yn effeithiol. Yn ystod y gwaith o ddatblygu`r wefan a`r cydweithio dilynol, llwyddodd Hoffi i greu cryn argraff arnom trwy ei broffesiynoldeb cyfeillgar a`i allu i droi ein manylion yn gynllun cydlynol llwyddiannus. Mae`r cymorth technegol wedi bod yn wych, gydag unrhyw faterion yn cael eu datrys yn gyflym. Rydym wedi mwynhau gweithio gyda nhw ar brosiect Newid Hinsawdd Cymru, a gobeithio eu bod nhw wedi mwynhau hefyd. Tim Brew, Rheolwr Addysg