- English
- 029 2048 7941
- Cysylltwch â ni
Daeth Mabis atom gan ei fod yn ystyried datblygu brand annibynnol - roedd yn cael ei gysgodi gan frand ei riant 'Menter a Busnes' ac yn chwilio am strategaeth syml er mwyn creu pellter rhyngddynt a sicrhau ymdeimlad o annibyniaeth.
Buom yn gweithio gyda Mabis i greu cysyniad i gefnogi ei weithgareddau marchnata digidol a phenderfynwyd y byddai gwefan annibynnol, wedi’i brandio fel Mabis, yn cyflawni’r nod cyntaf o greu pellter rhyngddo â’i riant gwmni.
Gan ddefnyddio ei frand cyfredol, aethom ati i ddefnyddio lliwiau cryf a darparu lluniau o’r gwasanaethau oedd ar gael.
Ewch i wefan Mabis (www.mabis.co.uk)

Hafan - Gwasanaethau Proffesiynol Dulas ar gyfer Ynni Adnewyddadwy

Map o`r prosiect - Gwasanaethau Proffesiynol Dulas ar gyfer Ynni Adnewyddadwy
Mae Dulas yn adnabyddus ledled y byd fel cwmni ynni adnewyddadwy sy`n cynnig gwasanaethau proffesiynol i gleientiaid sydd am ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Mae ganddo arbenigedd yn y meysydd technoleg canlynol: biomas, ynni gwynt, ynni`r haul, ynni dŷr ac mae`n cynnig gwasanaethau ymgynghori a chynhyrchion ynni adnewyddadwy.
- Dylunio
- Gwefan CMS
- XML
- Newyddion RSS
- Cymhwysiad Fflach
"Rydym wedi cael ymateb gwych gan ein cwsmeriaid, cyflenwyr a phartneriaid ar y wefan newydd mae Hoffi wedi`i datblygu i ni. Mae agwedd ymgynghorol a rhagweithiol y cwmni at ddatblygu gwefan wedi creu cryn argraff arnaf!" Ian Draisey, Rheolwr Gyfarwyddwr