D

Dylunio creadigol.
Syniadau dwyieithog.

Hoffi Limited Logo

Main Menu

Pages associated with 'Empower'

Empower

Aethom ati i gynhyrchu CD-Rom e-ddysgu rhyngweithiol, a oedd yn cydymffurfio â delwedd gorfforaethol Empower, tra`n cynnal ymdeimlad o bersonoliaeth trwy ei gyflymder, ei gynnwys storiol a`i weithgareddau ar ffurf tasgau.

Comisiynodd Empower Hoffi i ddylunio a chreu adnodd dysgu rhyngweithiol yn seiliedig ar ein rhaglenni hyfforddi i’w ddefnyddio gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy’n ceisio sicrhau cyllid. Dyluniwyd y cynnyrch i ddarparu amgylchedd dysgu sain, gweledol a chinesthetig y gallai cyfranogwyr weithio trwyddo ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau, gan stopio a dechrau fel y mynnant.

CD-Rom e-ddysgu rhyngweithiol

Arrow CD-Rom e-ddysgu rhyngweithiol

CD-Rom e-ddysgu rhyngweithiol - gwe-lywio

Arrow CD-Rom e-ddysgu rhyngweithiol - gwe-lywio

Ciplun rhyngwyneb - CD-Rom e-ddysgu rhyngweithiol

Arrow Ciplun rhyngwyneb - CD-Rom e-ddysgu rhyngweithiol

Gall gweithgareddau ar y sgrîn gael eu cyflawni`n unigol neu mewn grŵp

Arrow Gall gweithgareddau ar y sgrîn gael eu cyflawni`n unigol neu mewn grŵp

Allbwn

- CD-Rom hyfforddi
- Deunyddiau cymorth
- Deunydd pacio

Cleient

Mae Empower yn darparu amrywiaeth o wasanaethau proffesiynol i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Maent yn ymarferwyr profiadol sy`n gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn deall yr heriau sy`n wynebu grwpiau a sefydliadau mawr a bach.

Canlyniad

Roeddem yn awyddus i gynnwys elfennau rhyngweithiol ac ymarferol ein hyfforddiant yn yr adnodd hwn a, chyda dawn greadigol a thechnegol Hoffi, llwyddwyd i wneud hynny. Buont yn gweithio`n agos gyda ni trwy gydol y broses, gan ddiwygio ac addasu yn ôl y gofyn. Byddem yn sicr yn argymell Hoffi ac yn defnyddio`r cwmni eto yn y dyfodol. Bev Garside, Cyfarwyddwr Empower - Cymorth i`r Sector Gwirfoddol