- English
- 029 2048 7941
- Cysylltwch â ni
Aethom ati i gynhyrchu gwefan rheoli cynnwys ar gyfer Dulas fel y gall reoli`r gwaith o hyrwyddo ei wasanaethau proffesiynol ar gyfer ynni adnewyddadwy ar-lein.
Cyn i ni ddatblygu gwefan Dulas, roedd diweddariadau’n cael eu rheoli gan un aelod o staff, trwy ddefnyddio meddalwedd golygu html a llwytho pethau’n uniongyrchol i weinyddwr y we. Sylweddolodd Dulas bod hon yn broses araf a oedd yn effeithio ar y gallu i gysylltu cynhyrchion a gwasanaethau ledled y wefan.
Aethom ati i ddylunio a datblygu system rheoli cynnwys aml-haen i reoli a strwythuro’r wybodaeth gynhwysafwr am gynhyrchion a gwasanaethau Dulas. Trwy weithio gyda llawer o adrannau Dulas, cawsom ddealltwriaeth wych o lefel y profiad sydd gan y cwmni’n gyffredinol a’r unigolion sy’n gweithio iddo. Roeddem yn teimlo bod hyn yn bwysig ac y dylid ei adlewyrchu ar ei wefan mewn ffordd glir a chynhwysfawr, gan ddarparu lefel o arbenigedd a phersonoliaeth i gleientiaid cenedlaethol a rhyngwladol.
O ystyried hyn, cynlluniwyd y wefan mewn cydweithrediad â’r adran farchnata, gan sicrhau bod pob agwedd ar y busnes yn cael eu cwmpasu, ynghyd ag is-strwythur o ddata a allai fod yn berthnasol i fwy nag un adran. Trwy waith cynllunio cynhwysfawr, cynhyrchwyd cynllun a oedd yn ymdopi â data cymhleth, gan ei alluogi i hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau ar draws adrannau.
Ewch i wefan Dulas Cyf (www.dulasltd.co.uk)

Hafan - Gwasanaethau Proffesiynol Dulas ar gyfer Ynni Adnewyddadwy

Map o`r prosiect - Gwasanaethau Proffesiynol Dulas ar gyfer Ynni Adnewyddadwy
Mae Dulas yn adnabyddus ledled y byd fel cwmni ynni adnewyddadwy sy`n cynnig gwasanaethau proffesiynol i gleientiaid sydd am ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Mae ganddo arbenigedd yn y meysydd technoleg canlynol: biomas, ynni gwynt, ynni`r haul, ynni dŵr ac mae`n cynnig gwasanaethau ymgynghori a chynhyrchion ynni adnewyddadwy.
- Dylunio
- Gwefan CMS
- XML
- Newyddion RSS
- Cymhwysiad Fflach
"Rydym wedi cael ymateb gwych gan ein cwsmeriaid, cyflenwyr a phartneriaid ar y wefan newydd mae Hoffi wedi`i datblygu i ni. Mae agwedd ymgynghorol a rhagweithiol y cwmni at ddatblygu gwefan wedi creu cryn argraff arnaf!" Ian Draisey, Rheolwr Gyfarwyddwr