- English
- 029 2048 7941
- Cysylltwch â ni
Trwy gydweithio â threfnwyr Gŵyl Ddylunio Caerdydd yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC), gwelwyd bod angen i ŵyl 2007 fod yn hygyrch a bod angen darparu cyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan ynddi. Datblygwyd brand yr ŵyl, gan ddod ag ymdeimlad o egni, brwdfrydedd ac apêl i’r cyhoedd trwy gyflwyno lliw i amlygu mannau poblogaidd: rhannau o’r ddinas lle cynhelir digwyddiadau’r ŵyl.
Nod delwedd y brand a’r deunydd hyrwyddo brand oedd denu mwy o ddylunwyr o’r gymuned ddylunio yng Nghymru, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r Ŵyl ac, yn bwysicaf oll, sicrhau dyfodol yr ŵyl i gynyddu cymorth a nawdd ar gyfer y rhaglen o ddigwyddiadau.

Hyrwyddo brand Gŵyl Ddylunio Caerdydd - gwahoddiad

Llenyddiaeth hyrwyddo ar gyfer Arddangosfa Graddedigion Gŵyl Ddylunio Caerdydd
Lansiwyd yn 2005 gan Olwen Moseley, Cyfarwyddwr Menter Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd. Sefydlwyd yr ŵyl fel dathliad o dalent creadigol yng Nghymru, gan roi mwy o sylw i waith dylunio Cymreig o`r radd flaenaf.
- Hyrwyddo brand
- Taflenni
- Gwefan
- Arddangosfa
- Gwahoddiadau
Yn 2006, cyn i ni ddechrau addasu`r brand, roedd yr ŵyl yn canolbwyntio ar 11 digwyddiad allweddol. Yn 2007, cafwyd dros 25 o ddigwyddiadau, cynnydd o 125%. Bu cynnydd hefyd yn y rhaglen gyfan o ddigwyddiadau. Yn sgil llwyddiant gŵyl 2007, penderfynwyd parhau i ddefnyddio Hoffi fel y dylunwyr ar gyfer gŵyl 2008 a gynhelir ym mis Hydref. "Roedd ymrwymiad Hoffi i sicrhau llwyddiant yr ŵyl yn mynd llawer ymhellach na`r hyn sy`n digwydd gyda gwaith dylunio proffesiynol fel arfer. Roedd yn bartner yng ngwir ystyr y gair, yn cynnig barn a phrofiad ac yn rhoi adborth ar syniadau a chynnig ei syniadau ei hun. Cynlluniodd wefan a deunydd cyhoeddusrwydd yr ŵyl hefyd, heb ddim ffwdan, yn gyflym ac yn gwbl ddibynadwy a chawsom hwyl a sbri wrth weithio gyda`r cwmni." Olwen Moseley - Cyfarwyddwr Gŵyl Ddylunio Caerdydd