C

Dylunio creadigol.
Syniadau dwyieithog.

Hoffi Limited Logo

Main Menu

Pages associated with 'Calon Wen'

Calon Wen

Gofynnodd Calon Wen i ni ddatblygu i ddeunyddiau gwerthu er mwyn cynyddu effaith ei frand llaeth difyr a chyfeillgar.

Trwy ymchwilio i leoliadau sy’n gwethu’r cynnych ar hyn o bryd a deall brand Calon Wen, datblygwyd strategaeth hyrwyddo’n seiliedig ar olygfeydd darluniadol ar ffurf cartŵn, gan olrhain tarddiad ei gynhyrchion; ble mae ei wartheg yn byw, yn pori ac yn cael eu godro.

Mae’r syniad hwn wedi’i ddefnyddio ledled y deunydd pacio, hyrwyddo a gwybodaeth, gan gynnwys hysbysebion mewn siopau, Papur ysgrifennu corfforaethol ac ati a gwaith marchnata digidol.

Taflen man gwerthu i gyd-fynd â jwg eco pak Calon Wen

Arrow Taflen man gwerthu i gyd-fynd â jwg eco pak Calon Wen

Datblygu brand ar gyfer amrywiaeth o ddiodydd llaeth sy`n targedu plant

Arrow Datblygu brand ar gyfer amrywiaeth o ddiodydd llaeth sy`n targedu plant

Hysbysebu mewn gwahanol leoliadau

Arrow Hysbysebu mewn gwahanol leoliadau

Cerdyn post hyrwyddo ar gyfer eco pak Calon Wen

Arrow Cerdyn post hyrwyddo ar gyfer eco pak Calon Wen

Cleient

Cwmni cydweithredol sy`n eiddo i dros 20 o deuluoedd ffermio o bob cwr o Gymru yw Calon Wen. Mae ein plant a`n teuluoedd yn yfed ein llaeth bob dydd ac mae`r hyn sy`n weddill yn cael ei roi mewn poteli neu ei gorddi, gan roi blas o`r bywyd syml i chi.

Allbwn

- Baneri gwe
- Deunydd pacio
- Taflenni
- Posteri

Canlyniad

Mewn byr amser, mae Calon Wen wedi datblygu`n un o`r brandiau llaeth mwyaf cyfarwydd ar y farchnad. Gofynnodd Calon Wen i ni sicrhau parhad y llwyddiant hwn trwy ddatblygu deunydd marchnata amrywiol. "Gofynnwyd i Hoffi ddatblygu amrywiaeth o ddeunyddiau man gwerthu i helpu i hyrwyddo ein llaeth mewn siopau. Dangosodd Hoffi ei fod wedi deall brand Calon Wen trwy ansawdd y gwaith a gyflawnwyd, ac mae wedi bod o fudd mawr i dynnu sylw pobl at ein cynhyrchion." Elen Morris - Calon Wen, Rheolwr Marchnata