C

Dylunio creadigol.
Syniadau dwyieithog.

Hoffi Limited Logo

Main Menu

Pages associated with 'Amgueddfa Cymru'

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

Buom yn gweithio gyda’r amgueddfa i ailasesu ei allbwn cyfredol, trwy gyfres o brosiectau ymchwil dros gyfnod o amser. Trwy ddefnyddio’r gwaith ymchwil hwn, aethom ati i fynd i’r afael ag amcanion Amgueddfa Cymru trwy nodi marchnadoedd targed newydd, sy’n hanfodol er mwyn ehangu gwaith a chysylltiadau’r amgueddfa yng Nghymru a chyda marchnadoedd y dyfodol.

O’n canfyddiadau, aethom ati i ddatblygu meini prawf dylunio penodol i ddenu’r marchnadoedd newydd hyn. Darparwyd cynllun ar gyfer gwybodaeth a oedd ar gael i ddarpar ymwelwyr a defnyddwyr y saith amgueddfa, tra’n cefnogi marchnadoedd ymwelwyr cyfredol yn ofalus.

Mae defnyddio ein meini prawf dylunio wedi sicrhau cysondeb yng nghynnyrch yr Amgueddfa ac fe’u defnyddir hefyd yn deunydd hyrwyddo brand.

Hyrwyddo brand y saith amgueddfa sy`n rhan o Amgueddfa Cymru

Arrow Hyrwyddo brand y saith amgueddfa sy`n rhan o Amgueddfa Cymru

Arrow 

Arrow 

Arrow 

Cleient

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnwys saith amgueddfa sydd wedi`i lleoli ledled Cymru. Mae pob amgueddfa`n archwilio gwahanol agweddau ar ein hanes, tra`n rhannu gwerthoedd rhagoriaeth a dysgu Amgueddfa Cymru.

Allbwn

- strategaeth y brand
- delwedd y brand
- hyrwyddo brand