- English
- 029 2048 7941
- Cysylltwch â ni
Wrth ddatblygu brand ar gyfer cwmni, rydym yn hoffi bod yno o`r cychwyn, a dyna oedd yr achos gyda Sobor.
O’r briff cychwynnol, buom yn gweithio’n agos gyda Rhodri Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Sobor, i sefydlu cyfres graidd o werthoedd brand ar gyfer Sobor Smoothies reit o’r cychwyn. Oherwydd hyn, roeddem mewn sefyllfa ddelfrydol i gymryd rhan mewn treialon blasu cynnar a gweld y cynnyrch yn datblygu ochr yn ochr â’r brand.
Roedd bod yn rhan o gyfnodau cynnar y prosiect hefyd yn rhoi mwy o ryddid i ni, yn ogystal â chyfle i drafod ffurf a swyddogaeth y brand, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer enw’r brand a chynllun y botel. Y nod oedd creu smwddi ffasiynol i bobl sy’n mynd i fariau a chlybiau nos sydd ddim am yfed alcohol.

Sobor Fruit Smoothies - deunydd pacio / label y botel

Sobor Fruit Smoothies - deunydd pacio / label y botel
Smwddi ffrwythau unigryw sy`n targedu`r farchnad bywyd nos yw Sobor.
- Delwedd y brand
- Deunydd pacio`r cynnyrch
- Gwefan syml
- Arddangosfa
"Rydyn ni fel cwmni yn falch iawn gyda`n brand a chynllun y deunydd pacio. Rydym yn hapus iawn gyda`r ffordd y mae Hoffi wedi datblygu ein syniad gwreiddiol i greu gwaith trawiadol sy`n ategu safle SoBor ym marchnad y bariau a`r gwestai gorau." Rhodri Davies, Rheolwr Datblygu Busnes