B

Dylunio creadigol.
Syniadau dwyieithog.

Hoffi Limited Logo

Main Menu

Pages associated with 'Nomad & Nest'

Nomad & Nest

Nomad & Nest

Gofynnwyd i ni greu ymestyn brand Nomad & Nest, gan ehangu ei gwmpas creadigol, ennyn diddordeb ymhlith y gymuned a rhoi naws gyfeillgar i`w gynhyrchion newydd.

Trwy weithio’n agos gyda Nomad & Nest, datblygwyd nod brand yn seiliedig ar ddelwedd o datŵ: gyda phob cynnyrch wedi’i frandio â nod Nomad & Nest. Mae defnyddio’r nod brand fel tatŵ wedi galluogi Nomad & Nest i feithrin ei werthoedd cymunedol, trwy’r ddealltwriaeth bod gan bob cwsmer datŵ, gan greu chwilfrydedd ymhlith cwsmeriaid o ran dod o hyd i’r nod ar ei gilydd.

Nod brand/tatŵ Nomad & Nest ar ei Onebag

Arrow Nod brand/tatŵ Nomad & Nest ar ei Onebag

Nod brand/tatŵ Nomad & Nest ar ddeunydd pacio`r sioe fasnach

Arrow Nod brand/tatŵ Nomad & Nest ar ddeunydd pacio`r sioe fasnach

Cerdyn cyfarch Nomad & Nest yn defnyddio delweddau unigol y brand

Arrow Cerdyn cyfarch Nomad & Nest yn defnyddio delweddau unigol y brand

Delweddau amrywiol unigol Nomad & Nest

Arrow Delweddau amrywiol unigol Nomad & Nest

Cleient

O dan eu label ffasiwn unigryw gwreiddiol Nomad & Nest, mae Angela Gidden a Fi Campbell, yn dylunio bagiau lledr cain ac unigryw, cyfwisgoedd, cyfarpar a chynhyrchion eraill i ddynion a menywod wedi`u gwneud o ddarnau lledr a ffabrigau sbâr diddorol. Mae`r cyfuniad o flas o`r oes a fu a naws cyfoes yn adlewyrchu athroniaeth amgylcheddol y label 'We love our stuff to be cherished not chucked'.

Allbwn

- Nod brand