B

Dylunio creadigol.
Syniadau dwyieithog.

Hoffi Limited Logo

Main Menu

Pages associated with 'Llyfr y Flwyddyn'

Llyfr y Flwyddyn

Llyfr y Flwyddyn

Trwy ddefnyddio lliwiau cryf, patrymau bras a theipograffeg, cynhyrchwyd brand Llyfr y Flwyddyn i ategu amrywiaeth y llyfrau a enwebwyd eleni.

Trwy’r cyferbyniad hwn, targedwyd cynulleidfa newydd tra’n cynnal naws gyfarwydd ar gyfer y rhai a oedd wedi bod yn rhan o’r digwyddiad yn y gorffennol. Penderfynwyd hyrwyddo’r brand trwy ddull rhyngweithiol a fyddai’n datgelu gwybodaeth yn raddol wrth i’r deunydd gael ei ddefnyddio a’i ddarllen. Roedd yr agwedd hon yn allweddol er mwyn helpu i ymestyn cyrhaeddiad Gwobrau 2008.

Academi - taflen hyrwyddo Llyfr y Flwyddyn yn cynnwys yr enwebiadau

Arrow Academi - taflen hyrwyddo Llyfr y Flwyddyn yn cynnwys yr enwebiadau

Arrow 

Cleient

Dyfernir gwobrau blynyddol Llyfr y Flwyddyn Cymru, a weinyddir gan yr Academi, i`r gweithiau Cymraeg a Saesneg gorau ym maes ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.

Allbwn

- Delwedd y brand
- Taflen
- Sticeri
- Posteri
- Baneri
- Llyfrnodau

Canlyniad

"Mae Hoffi wedi rhoi`r naws gyfoes berffaith i ymgyrch gyhoeddusrwydd Llyfr y Flwyddyn yr Academi, gyda`r elfen hygyrch ddelfrydol. Llythrennog, hygyrch a newydd. Y dylunwyr perffaith." Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi